Tales of the Trails

Two women with bikes looking out over a lake

Funded by the National Lottery Heritage Fund, Cycling UK’s Tales of the Trails celebrates the heritage of the communities in Ynysybwl and Clydach Vale while inspiring residents and visitors to explore their local area.


Gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae ymgyrch Cycling UK, Hanesion y Llwybrau,  yn dathlu treftadaeth cymunedau Ynys-y-bwl a Chwm Clydach ac yn ysbrydoli preswylwyr ac ymwelwyr i grwydro’r ardal leol.

The Cambrian memorial

Wales’ valleys and the mining communities which sprung up in them are a proud part of our past which deserve to be remembered. 

Funded by the National Lottery Heritage Fund, Cycling UK’s Tales of the Trails project has worked with Ynysybwl Regeneration Partnership and the Cambrian Village Trust to capture the stories of residents and bring them to life with cycle trails which take people into the landscape where they happened.

Coal transformed these places from sparsely-populated valleys to hives of industrial activity. They may look very different today, but the two communities strive to keep their heritage alive, while looking to the future and the opportunities for natural regeneration and outdoor activities.

Cycling UK has also trained local people to lead groups of cyclists out on the trails and supported the creation of community cycle clubs – clubs which welcome all types of cyclist, no matter their age or ability. 

Explore these trails yourself to discover more about the past, present and future of Ynysybwl and Clydach Vale.

I think the impression most people have of the valleys is that they are just a wasteland, but it’s not… It’s a beautiful place and ought to be explored more

Dewi Pritchard, former pit blacksmith and teacher, Ynysybwl
Woman cycling along forest track

Mae cymoedd Cymru a’r cymunedau glofaol a dyfodd ynddynt yn rhan falch o’n gorffennol sy’n haeddu cael eu cofio.

Mae prosiect Hanesion y Llwybrau Cycling UK, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi gweithio gyda phartneriaeth Adfywio Ynys-y-bwl ac Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian i gofnodi hanesion y preswylwyr a dod â nhw’n fyw trwy lwybrau seiclo sy’n mynd â phobl i’r dirwedd lle digwyddasant. 

Trawsnewidiwyd y lleoedd hyn gan y diwydiant glo, o gymoedd prin eu poblogaeth i rai’n llawn berw diwydiannol. Efallai bod golwg wahanol iawn arnynt erbyn heddiw, ond mae’r ddwy gymuned yn ymdrechu i gadw’r dreftadaeth yn fyw, tra’n edrych i’r dyfodol a’r cyfleoedd ar gyfer adfywiad naturiol a gweithgareddau awyr agored. 

Mae Cycling UK hefyd wedi hyfforddi pobl leol i arwain grwpiau o seiclwyr ar y llwybrau ac wedi cefnogi’r gwaith o greu clybiau seiclo cymunedol – clybiau sy’n croesawu seiclwyr o bob math, waeth beth eu hoedran neu lefel gallu.

Crwydrwch y llwybrau hyn eich hun i ddysgu mwy am orffennol, presennol a dyfodol Ynys-y-bwl a Chwm Clydach.

Rwy’n meddwl mai’r argraff o’r cymoedd sydd gan y rhan fwyaf o bobl yw eu bod nhw’n ddiffeithwch, ond dydyn nhw ddim... Mae’n lle hardd a dylid ei grwydro mwy

Dewi Pritchard, cyn-of pwll glo ac athro, Ynys-y-bwl

Explore Clydach Vale / Crwydrwch Cwm Clydach