Traws Eryri: map a ffeil GPX

Ride level Experienced cyclist
Distance 122 mi / 196 km
Type of bicycle Mountain bike
Traffic Expect traffic
Darganfyddwch hanes cyffrous, dirgelwch gwyllt a thirweddau mynyddog mawreddog Eryri ar yr antur 200km heriol hon ar draws gogledd Cymru.

 

Tref hanesyddol Machynlleth yn y canolbarth yw man cychwyn llwybr Traws Eryri. O’r fan hon, mae’n eich hudo ac yn eich herio ar draws Parc Cenedlaethol Eryri i gadarnle castell canoloesol Conwy. Mae ein llwybr ni, a ddyfeisiwyd gan arbenigwr, yn cysylltu coedwigoedd gwyllt, golygfeydd godidog o fynyddoedd a hanes hudolus gan ddefnyddio traciau hynafol, ffyrdd Rhufeinig a lonydd tawel trwy ddyffrynnoedd irlas a chopaon geirw’r dirwedd epig hon.

Gellir rhannu llwybr Traws Eryri dros dri neu bedwar diwrnod, neu ei gyfuno â llwybr Sarn Helen yn mynd i’r gogledd o Gastell-nedd i gael wythnos gyfan o antur yng Nghymru. Os na fydd gennych ddigon o amser i wneud y llwybr cyfan ar unwaith, gallwch ei dorri’n ddarnau gan ddefnyddio gorsafoedd rheilffordd Machynlleth, Abermaw, Betws-y-coed a Chonwy. Rydym hefyd wedi awgrymu teithiau posibl ar ddiwedd y taithlyfr sy’n nodi pellteroedd cronnus at bwyntiau allweddol a lleoliadau cyfleusterau defnyddiol.

Lawrlwythwch y teithlyfr

Ewch i siop ar-lein Cycling UK i gael y teithlyfr â mapiau mwy manwl.

Tir

Nid yw llwybr Traws Eryri mor hir o ran pellter â’r rhan fwyaf o lwybrau Cycling UK sy’n cymryd mwy na diwrnod, ond peidiwch â’i dan-amcangyfrif. Mae’r nifer o ddringfeydd serth, estynedig a’r disgyniadau cyffrous oddi ar y ffordd yn ei wneud yn antur heriol go iawn. Bydd yn rhoi profiad gwych o wylltir mewn ardaloedd anghysbell prin eu hymwelwyr, sy’n gwneud yr ymdrech ychwanegol yn werth chweil.

Mae natur linellol y llwybr yn ychwanegu haenen arall o ymrwymiad, ond mae’r siâp tonnog yn golygu y ceir opsiynau llwybrau byr ar y rhan fwyaf o gamau’r daith, os yw’r golygfeydd godidog yn eich arafu chi’n fwy na’r disgwyl. Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys y tonnau os gallwch: mae rheswm da fel arfer os yw’r llwybr fel petai’n mynd allan o’i ffordd.

Mae gan y rhan fwyaf o’r llwybrau a ddefnyddiwn sylfaen greigiog, felly ni fyddwch yn mynd yn sownd mewn cors beth bynnag yw’r tywydd. Mae rhai darnau’n eithaf garw a chreigiog, sy’n ychwanegu anhawster technegol i rai o’r disgyniadau, yn enwedig mewn amodau gwlyb. Sicrhewch fod gennych feic ac yn defnyddio gêr rydych chi’n hyderus â nhw. Gallwch bob amser ddod oddi ar y beic a gwthio os na fyddwch yn teimlo’n gyfforddus.

Oherwydd y llethrau serth a’r gyfran uchel o feicio oddi ar y ffordd, mae’r llwybr hwn yn gweddu orau i feicwyr profiadol.

Beic a phac

Dyluniwyd llwybr Traws Eryri ar gyfer beiciau mynydd, a bydd y rhai sy’n defnyddio gerau isel a theiars mawr yn bendant yn cael y pleser mwyaf o’r llethrau serth a’r wynebau creigiau rhydd. Mae defnyddio beic mynydd hefyd yn rhoi cyfle i brofi rhai o’r llwybrau beicio mynydd pwrpasol yng nghoedwig Dyfi, Coed y Brenin, Penmachno a Choedwig Gwydir. I’r rhai sy’n mwynhau her, gellid cwblhau’r llwybr ar feic graean â gerau isel a theiars llydan os na fydd ots gennych wthio’r beic i fyny a cherdded i lawr mewn mannau. Nid ydym yn argymell defnyddio beiciau ffordd, beiciau teithio na beiciau hybrid â gerau cyfyngedig a/neu teiars cul. Bydd e-feic yn gwneud y dringfeydd yn haws, ond dylech gynllunio’r mannau gwefru ymlaen llaw. Bydd Eryri yn defnyddio eich batri’n gynt na’r rhan fwyaf o dirweddau eraill.

Ceir nifer o siopau beic ar y ffordd, ond sicrhewch fod eich beic mewn cyflwr da cyn ichi fynd i Fachynlleth. Rhowch gynnig ar unrhyw beth newydd – gan gynnwys bagiau a dillad – ymlaen llaw, fel eich bod yn siŵr bod popeth yn gweithio. Ewch ag offer a darnau sbâr gyda chi er mwyn datrys unrhyw anawsterau sy’n debyg o godi ar y llwybr, ynghyd â phecyn cymorth cyntaf, gan y byddwch yn bell o gymorth mewn mannau, ac mae’r signal ffonau’n amrywio’n fawr. Os yw’r tywydd yn debyg o fod yn wlyb, mae iriad cadwyn a phadiau brêc sbâr yn rhagofalon doeth hefyd.

Bydd cynnwys eich pac, yn fawr neu’n fach, yn amlwg yn dibynnu arnoch chi, eich amserlen a ble fyddwch chi’n cysgu. Ceir nifer o siopau ar hyd y llwybr ar gyfer ailgyflenwi, a siopau awyr agored arbenigol ym Machynlleth, Dolgellau, Betws-y-coed a Chapel Curig. Mae natur oddi-ar-y-ffordd y daith yn ffafrio bagiau beicio â strapiau a/ neu gwarbac yn hytrach na raciau a chewyll sy’n gallu siglo a dod yn rhydd.

Yn olaf, er bod y rhan fwyaf o’r llwybr yn anghysbell iawn, gall darnau ohono – yn enwedig y darn cyd-ddefnyddio ar hyd aber Mawddach – fod yn brysur, felly gallai cloch fod yn ddefnyddiol iawn o ran bod yn gwrtais. Ymddengys eu bod yn gweithio’n dda ar ddefaid hefyd, sy’n anhawster mwy cyffredin.

Llywio

Nid oes cyfeirbwyntiau gan lwybr Traws Eryri ei hun. Er ei fod yn dilyn llwybrau ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol neu lwybrau eraill megis Llwybr Llechi Eryri mewn mannau, dim ond darnau bach yw’r rhain, ac yn aml bydd yn gwyro oddi wrthynt. Y ffordd hawsaf o lywio’r llwybr yw llwytho’r ffeil GPX ar ei gyfer i gyfrifiadur neu ffôn clyfar GPS dibynadwy y gallwch ei weld wrth ichi seiclo. Ond peidiwch â dibynnu ar ddiweddariadau safle byw ar ap mapio, gan fod y signal yn ddarniog. Dylech gadw map ‘go iawn’ wrth gefn bob amser rhag ofn i fatri eich system llywio electronig fethu.

Er bod y llywio’n syml gan fwyaf, mae’r llwybr yn dargyfeirio o’r llwybr amlwg mewn sawl man. Rydym wedi rhestru’r rhain yn y taithlyfr, ond rydym yn eich cynghori chi i wirio llwybr pob darn cyn mynd ar ei hyd a chadw eich pen i fyny i fwynhau’r golygfeydd a sylwi ar droadau, yn hytrach na mynd fel cath i gythraul â’ch pen i lawr.

Diogelwch

Tirwedd wirioneddol fynyddog yw Eryri, a bydd y trigolion lleol yn eich rhybuddio bob amser i baratoi ar gyfer tywydd o bob math mewn diwrnod. Nid oes unrhyw gysgod rhag yr hyn a ddaw o’r awyr ar hyd darnau mawr o’r llwybr, felly gall pethau droi’n ddifrifol yn gyflym os yw’r tywydd yn gwaethygu pan fyddwch wedi gorfod aros i ymdrin ag anhawster mecanyddol. Dylech ystyried mynd â haenen thermal sbâr, dillad gwrth-ddŵr a bag goroesi argyfwng fan lleiaf, hyd yn oed yn ystod yr haf. Mae’r holl ddringo’n golygu y byddwch yn llosgi’r calorïau’n gyflym hefyd, felly ewch â mwy o fwyd a bwyta’n rheolaidd i sicrhau bod eich lefelau egni a chanolbwyntio’n ddigon uchel. Bydd teithio mewn grŵp yn fwy diogel, ond os ydych chi mewn grŵp neu ar eich pen eich hun, byddai defnyddio dyfais neu ap ‘tywysydd’, fel bod rhywun arall yn gwybod ble ydych chi a beth yw eich amserlen, yn gallu achub eich bywyd.

O ran y llwybr, mae ein cynllunwyr wedi cynnwys cyn lleied â phosibl o groesfannau prif ffyrdd a darnau prysur o ffyrdd. Er mwyn helpu i’ch cadw’n ddiogel, rydym hefyd wedi tynnu eich sylw at unrhyw ffyrdd prysur neu bwyntiau eraill â mwy o berygl yn y rhestr ‘Byddwch yn ofalus’ ar ddechrau pob pennod. Efallai bydd angen ichi rannu lonydd cul a ffyrdd mewn coedwigoedd â thraffig ffermydd, coedwigaeth neu chwareli, felly byddwch yn barod i dynnu mewn a rhoi digon o le i gerbydau eraill. Boed yn ddefaid yn ymddangos o’ch blaen, darnau creigiog neu raean rhydd, mae beicio oddi ar y ffordd yn gallu achosi syndod, felly arhoswch o fewn terfynau eich sgìl a’ch cyfarpar bob amser.

Yn olaf, ond yn bwysig iawn, byddwch yn ymwybodol o ddiogelwch a phryderon pobl eraill bob amser. Mae’r llwybr yn croesi llawer o ardaloedd lle ceir da byw yn pori, felly dylech sicrhau eich bod yn cau gatiau ac yn arafu neu’n stopio os oes rhaid, yn hytrach na chodi ofn ar ddefaid. Dylech arafu, cyfarch defnyddwyr eraill y llwybr, ffermwyr neu weithwyr coedwigaeth, a gadael iddyn nhw fynd heibio. Bydd angen cau neu arallgyfeirio llwybrau mewn coedwigoedd o dro i dro ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwigol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar arwyddion. Dilynwch y Cod Cefn Gwlad, casglwch unrhyw sbwriel y dewch ar ei draws ar y ffordd a byddwch y llysgennad gorau posibl dros seiclo. Fel hyn, bydd seiclwyr fel ni yn cael ein hystyried yn hwb cadarnhaol i’r ardal, a fydd yn helpu i sicrhau y caiff Cycling UK barhau i ddatblygu mwy o lwybrau mewn mannau anhygoel i chi eu mwynhau.

Awgrymiadau ar gyfer taith dda

  • Seiclwch yn gyfrifol: Dangoswch barch at yr holl ddefnyddwyr eraill a gofalu am yr amgylchedd.
  • Gadewch ôl cadarnhaol: Defnyddiwch arferion seiclo effaith isel. Dylech fynd ar hyd llwybrau sydd eisoes yn bodoli, trwy byllau dŵr yn hytrach na lledaenu traciau, osgoi llwybrau mwdlyd lle bo’n bosibl ac osgoi sgidio. Peidiwch byth â gadael ysbwriel, ac yn well fyth, casglwch unrhyw sbwriel a welwch ar y llwybr.
  • Cadwch eich beic dan reolaeth: Canolbwyntiwch, gwiriwch eich cyflymder a meddwl am bobl eraill.
  • Peidiwch â tharfu ar anifeiliaid: Gall sŵn annisgwyl ddychryn da byw, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt. Byddwch yn ystyrlon, peidiwch â mynd yn agos atyn nhw a gadewch gatiau fel y maent.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw: Byddwch yn ymwybodol o’ch beic, eich cyfarpar a’ch gallu, ac o’r tir rydych chi’n seiclo arno. Byddwch yn barod am dywydd garw ac anawsterau mecanyddol posibl.
  • Gadewch i bobl eraill fynd heibio: Rhybuddiwch bobl eraill eich bod yn dod drwy ganu gloch, chwibanu neu alw ‘bore da!’ Ewch heibio i eraill, yn enwedig rhai ar gefn ceffyl, yn araf gan adael digon o le. Byddwch yn ofalus wrth ddynesu at gorneli cudd a disgyniadau. Byddwch yn gwrtais a dweud helo!